Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2024

Amser: 09.01 - 09.17
 


Remote/ Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Matthew Richards,  Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.35pm

 

Dydd Mercher

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid aelodau’r blaid Lafur ar nifer o bwyllgorau i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (o dan eitem 5.1) i amserlennu cynnig i benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Felly, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mercher: 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (o dan eitem 5.1) i amserlennu cynnig i benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Felly, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mercher: 

 

 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Her 50 diwrnod newydd i wella rhyddhau cleifion o'r ysbyty a gofal cymunedol (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (45 munud)

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024 -

·         Datganiad gan James Evans - Diweddariad ar y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig (30 munud)

 

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024

 

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Amserlen ar gyfer y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd. yr Amgylchedd a Seilwaith er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol ac ymgynghori â’r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

</AI8>

<AI9>

4.2   Llythyr gan James Evans AS ynghylch y Bil Iechyd Meddwl (Safonau Gofal) (Cymru)

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd ar y cynnig i amser gael ei roi i James Evans AS wneud datganiad i ddiweddaru'r Senedd ar ddatblygiad ei Fil Iechyd Meddwl (Safonau Gofal) (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Tachwedd 2024.

 

 

</AI9>

<AI10>

5       Pwyllgorau

</AI10>

<AI11>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch penodi Comisiynydd Safonau Dros Dro

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i drefnu amser ar gyfer cynnig i benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro i ystyried cwyn benodol, gael ei gynnig yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Tachwedd, a chytunodd arno.

 

</AI11>

<AI12>

6       Amserlen y Senedd

</AI12>

<AI13>

6.1   Dyddiadau Toriadau

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad Hanner Tymor y Sulgwyn a Thoriad yr Haf 2025, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr Hydref 2025 a Thoriad y Nadolig 2025/6. 

 

 

 

 

</AI13>

<AI14>

7       Unrhyw fater arall

Datganiad Ysgrifenedig ar amseroedd aros

 

Nododd y Llywydd ei bod wedi derbyn llythyr gan Arweinydd Plaid Cymru ynghylch Datganiad Ysgrifenedig ar amseroedd aros a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Sul 17 Tachwedd ac yn mynegi pryder am gyhoeddi cyllid ychwanegol yng nghynhadledd y blaid Lafur dros y penwythnos, cyn i unrhyw wybodaeth gael ei darparu i'r Senedd. Nododd y Llywydd hefyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>